Cymraeg
Cefnogi Siarad Cynnar Plant

Os byddwch yn cofrestru, byddwn yn anfon rhai adnoddau atoch i edrych arnynt (yn y Gymraeg, Saesneg, neu'r ddwy iaith). Gallwch ddewis cael yr adnoddau drwy neges destun neu e-bost. Ar ôl i chi edrych arnynt, byddwn yn trefnu galwad ffôn fer 30 munud neu alwad fideo Teams – beth bynnag sydd orau i chi.
Cyn yr alwad, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen ganiatâd. Bydd hyn yn caniatáu inni recordio'r alwad a chynnwys eich adborth yn y prosiect. Bydd pob ymateb yn cael ei ddienwi cyn i ni eu dadansoddi, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel.
Ar ôl yr alwad, byddwn yn gofyn i chi sut y gallwn anfon taleb siopa gwerth £20, mae hyn yn ddiolch am gymryd rhan.
Nid yw llenwi'r ffurflen hon yn eich rhwymo i unrhyw beth, a gallwch stopio ar unrhyw adeg.
Noder, os byddwn yn derbyn nifer fawr o bobl yn cofrestru, efallai na fyddwn yn gallu siarad â phawb.