Pengwin

Cefnogi Siarad Cynnar Plant

Mae Llywodraeth Cymru yn creu adnoddau i helpu teuluoedd i gefnogi sgiliau iaith a chyfathrebu eu plentyn. Rydym eisiau siarad â rhieni a gofalwyr plant 0-5 oed, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau'n ddefnyddiol, yn glir, ac yn briodol.


Os byddwch yn cofrestru, byddwn yn anfon rhai adnoddau atoch i edrych arnynt (yn y Gymraeg, Saesneg, neu'r ddwy iaith). Gallwch ddewis cael yr adnoddau drwy neges destun neu e-bost. Ar ôl i chi edrych arnynt, byddwn yn trefnu galwad ffôn fer 30 munud neu alwad fideo Teams – beth bynnag sydd orau i chi.

Cyn yr alwad, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen ganiatâd. Bydd hyn yn caniatáu inni recordio'r alwad a chynnwys eich adborth yn y prosiect. Bydd pob ymateb yn cael ei ddienwi cyn i ni eu dadansoddi, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel. 

Ar ôl yr alwad, byddwn yn gofyn i chi sut y gallwn anfon taleb siopa gwerth £20, mae hyn yn ddiolch am gymryd rhan. 

Nid yw llenwi'r ffurflen hon yn eich rhwymo i unrhyw beth, a gallwch stopio ar unrhyw adeg. 

Noder, os byddwn yn derbyn nifer fawr o bobl yn cofrestru, efallai na fyddwn yn gallu siarad â phawb.